Page images
PDF
EPUB

ef, a heb fy niweidio innau; ac ni fu unrhyw anhap mewn cyssylltiad â'r ardd yn ystod llawer o flynyddoedd, am a wn i; ond cefais hyn allan, nad oedd digon o rinwedd ynddynt i gadw yr adar duon na phlantos drygionus rhag lladrata y ffrwythau.

Hefyd, nid oes neb yn gwybod pa faint o gymhorth ydyw yr hen bedolau i'r morwyr. Gwyddom am Gymry yn llongwyr yn eu sicrhau mewn amryw fannau ar eu llongau, o herwydd mae y gwr drwg, drwy offerynoliaeth ei blant, yn ddigon hyf i reibio a drygu llwyddiant y morwyr, yn gystal a phobl y tir.

Y mae yn beth hynod fod ein brodyr, y Llydawiaid, yn credu yn fwy dilys, hyd yn oed na'r Cymry, yn effeithioldeb y bedol. Yng nghylch pum mlynedd ar hugain yn ol, dygwyddodd i ni fod ar fwrdd llong o Lydaw yn un o borthladdoedd Cymru, ac yr oedd pedolau yn dryfrith ar hyd y llong; gallasem gyfrif rhai dwseni, wedi eu dosparthu a'u hoelio ar wahanol bethau ar y bwrdd. Gwnaethom ymholiad â'r cadben, yr hwn yn ddifrifol a'n hyspysai fod eu gwerth yn annhraethol iddynt ar y môr ac yn y porthladdoedd, rhag ystryw maleisus y gêr felldigedig ag sydd yn myned o gwmpas i reibio pobl a'u meddiannau. Maent hwy yn credu yn helaethach na'r Cymry, sef bod yr hen bedolau yn cadw draw Ꭹ diafol ei hunan— tad pob llygad drwg; ac felly maent yn cael llai o drafferth gyda 'i blant. Credant hwy, pan genfydd ef bedol, ei fod yn dianc nerth ei garnau, mewn cymmaint dychryn, fel na ddychwel yn ol am faith flynyddoedd.

DYDD SUL Y GWRYCHON.

CYFRIFIR Suliau y Deugain Nydd Garawys weithiau yn y wedd a ganlyn:

1. Dydd Sul Ynyd;

2. Dydd Sul hefyd;
3. Dydd Sul a ddaw;
4. Dydd Sul ger llaw;
5. Dydd Sul y Meibion ;
6. Dydd Sul y Gwrychon;
7. Dydd Sul y Blodau ;

8. Pasc a'i ddyddiau.”

Mewn rhai parthau, "Dydd Sul a ddaw," "Dydd Sul rhag llaw," y gelwir y trydydd a'r pedwerydd; ac enwir yr wythfed yn "Basc y Wyau" mewn ambell ardal; sef yn y mannau lle yr arferir hel 'wyau Pasc." Llygrir y chweched weithiau i "Sul y Gwreichion," ac eglurir ef fel yn dynodi Sul y Goruchafion, gyda rhyw gyfeiriad tybiol, dichon, at yr hanes ym Matthew xxi. 9; ond nid oes dim a fynno yr enw â gwreichion tân, nac â goruchafion nac iseifion chwaith. Hyn ydyw y gwir ystyr, os cywir nodyn i'r perwyl canlynol, yr hwn a ddarllenais (nid mewn llyfr preint Cymraeg," fel y dywedwyd am hanes yr Hen Wr o'r Coed,) ond mewn dogfen a ysgrifenwyd pan nad oedd "Sul y Gwrychon" eto wedi disgyn i blith y pethau a aethant heibio : Gwrychon yw pys a fwyder mewn dwr, llaeth, gwin, osai, a'r cyffelyb, dros noswaith, yna gadael iddynt sefyll oni bônt led sych; wedi hynny eu dodi mewn crochan ar dân araf, a'u trafod yn ddibaid, oni bônt yn gwrychynu, sef y plisgyn yn torri ac yn agor; yna

[ocr errors]
[ocr errors]

eu cwnnu a'u bwyta. Os yfer cwrw, osai, medd, neu win, gyda nhwy, yn ol eu mwydo eu dodi mewn gogr i ddyferu yn lled sych o'r tu faes." Hyn yna, meddir i mi, yw ystyr "Sul y Gwrychon."

Ymddengys yr arferai y bobl dda yn yr amser gynt ymborthi ar "wrychon" ar y Sul nesaf o flaen Sul y Blodau, ac ar ryw bethau cyffelyb trwy holl gorff y tymmor ymarbedol; o blegid, mae yn ddilys na fwytäent gig yn y Garawys, ar ddydd Sul nac ar ddydd gwaith; canys un o'u dywediadau, ac yn ddiau un o'u harferion hefyd, ydoedd

"Dydd Mercher y Lludw
Codi'r cig i gadw."

Ar Sul Canol y Garawys yr oedd yn arferiad gan y bobl fucheddol gynt fyned i ymweled â'r fam-eglwys, i dalu eu defodol offrymau Pasc, ac o ba herwydd y gelwid ef yn fynych yn "Sul y Mama." Oddi wrth y ddefod o ymweled â'r fam-eglwys, tyfodd arferiad arall, a elwid "Mama" hefyd, sef gwaith plant yn myned i ymweled â'u mamau, ne'u rhieni, ar y cyfryw Sul, pryd y byddid yn bwyta teisenau a elwid "teisenau mama; ac ef allai fod rhyw adgof o'r arfer hon ar gadw yn “ Sul y Meibion.”

[ocr errors]

Enw arall a roddid ar yr un Sul, sef y pedwerydd yn y Garawys, ydoedd dominica refectionis, sef Sul y Porthiant, yr hwn a gyfenwid felly mewn cyfeiriad at y llith gyntaf am y dydd, yr hon a grybwyll am waith Ioseph yn gwledda ei frodyr (Gen. xliii. yn ol yr hen lithiadur); a'r efengyl am yr unrhyw, yr hon a gofnoda wyrth porthi y pum mil.mewn lle anghyfannedd (Ioan vi. 1-15). Y cyttarawiad hwn a fu yn achos o'r enw. Dichon fod rhyw gymmaint o frith adlewyrch y naill neu'r llall o'r arferion hyn ar gof yn "Sul

N

y Gwrychon." Nid wyf sicr eu bod yn ffynnu ym mhlith ein hynafiaid; ond nid oes un rheswm i gredu fod y Dywysogaeth yn y pethau yma yn wahanol i rannau ereill y deyrnas. Un o'r enwau Seisoneg ar ddydd Sul canol y Garawys yw Mothering Sunday, yr hwn a drowyd uchod yn "Sul y Mama;" sef yw hynny, Sul ymweled â'r fam.

[ocr errors]

16

'Dydd Sul y Pys" yw Sul na ddaw byth; gan nad oes Sul o'r enw yn holl gorff y flwyddyn. Golygir yr un peth, sef byth ni bydd, pan ddywedir y dygwydd rhywbeth "yng nghyfarfod deu-Sul; neu, yn ol “ yr iaith nesaf atom," at the Greek Calends. Nid oedd y Groegiaid yn rhannu eu misoedd yn galanau : arfer y Rhufeiniaid ydoedd hynny.

CWRT Y FELIN WYNT.

DYMA hen le sydd yn ddigon adnabyddus i drigolion Aberystwyth; ac os bydd awydd ar ddieithriaid weled y fan, ni a gyfarfyddwn â hwynt wrth "Dŵr y Cloc Mawr," ac yna awn i lawr ar hyd Heol y Wig, a thrown i "Heol y Porth Tywyll Bychan," ac ar y llaw chwith cawn weled y fynedfa, ac uwch ei phen " Windmill Court." Dyna yr unig fan y gellir myned iddo ac o hono. Mae yno gryn lawer o dai, ac yn y pen pellaf mae y Felin Wynt. Ond dan gofio, mae yr hen adeilad hwnnw wedi cael ei dynnu i lawr er ys amryw flynyddoedd.

Dywedir fod saith ugain mlynedd er pan y bu malu yno, a chludwyd y peiriannau i Felin y Môr, fel ei gelwir, a dyna y pryd yr adeiladwyd honno. Byth ar ol rhoddi heibio falu, defnyddiwyd yr hen adeilad

yn dai, neu yn hytrach yn ystafelloedd, lle yr anneddai hen gymmeriadau tra hynod; a chan mai hwn yw yr unig gofiant a ysgrifenir byth am danynt, amcanwn, os yn fyr, fod yn gywir a gonest yn ein hadroddiad.

Yr ydym yn gorfod myned yn ol o leiaf hanner can mlynedd, o blegid gwirionedd profedig yw, nad oes rhyw lawer o gymmeriadau hynod a gwreiddiol wedi eu geni byth ar ol hynny.

Yr oedd yr hen Felin yn bedair llofft, a grisiau cerryg troellog yn esgyn i fyny o'r tu allan; gan hynny nid oedd dim cyssylltiad rhwng y naill gymmydog a'r llall, ond a fyddai ar y grisiau, a byddai hynny yn ddigon ar rai achlysuron. Hefyd, nid yr un faint a fyddai ardreth pob ystafell; yr ocdd yr isaf yn helaethach nag un o'r lleill, ac felly elent yn lleilai ym mhob ystyr nes cyrhaedd yr uchaf. A chan ein bod ar yr uchaf yn awr, ni а ddechreuwn gyda'r preswylydd, Siarlo Bach. Gelwid ef felly, rid yn gymmaint am fychander corfforol, nac ychwaith o herwydd bychander ei dalent; os dim, yr oedd ganddo fwy o dalent na nemawr un o'r teulu lluosog yr hanai o hono; ond am y rheswm ei fod yr un enw â'i dad, a diau ei fod ryw bryd yn llai o faintioli na'i dad.

Nid ydym yn cofio neb yn feddiannol ar fwy o humour ddigrifol. Yr oedd rhywbeth digrif yn ei wynebpryd, a cheid ef bob amser ym mhob man yn

66

ddigon o grwth a thelyn;" a chan ei fod yn annhraethol hoff o'r ddiod, gall y darllenydd benderfynu fod galw mawr am y cyfryw ddyn yn fynych mewn tafarnau, er nad oedd ganddo ond ychydig ei hunan i wario, ond ei fod yn cadw ereill yn ddifyr yno hefyd. Dylasem ddywedyd mai crydd oedd

« PreviousContinue »