Page images
PDF
EPUB
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small]

47.

Rhodio'r oeddwn fynwent Eglwys
I ymofyn am le teg i orphwys,

Taräwn fy nhroed wrth fedd f' anwylyd,
Clywn fy nghalon drom yn symmud.
Gofyn wnawn i'r gynnulleidfa,

[ocr errors]

Pwy yw'r un a gladdwyd yma ?" Ac atebai rhyw ddyn ynfyd, "Dyna'r fan lle mae d' anwylyd."

48.

Acw draw mae fy nau lygad,
Acw draw mae f' anwyl gariad ;
Acw draw dymunwn innau
Gysgu'r nos a chodi'r boreu.

49.

Mae genyf ebol melyn
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian

O dan ei bedair troed;
Fe neidia ac fe brancia
O dan y feinir wen ;
Fe redodd ugain milltir
Cyn tynnu'r ffrwyn o'i ben.

50.

Bûm yn byw yn gynnil gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwy-fil;

Trois i fyw yn afrad afrad,
Aeth y ddwy-fil yn un ddafad.

51.

Mae digon o wroldeb, oes,

Gan bawb, os arall fydd dan groes;
Ond nid mor hawdd y ceir Ꭹ dyn
A gynnal bwys ei faich ei hun.

Y PLENTYN A'R NEIDR.

Yr oedd unwaith fachgen bychan yn byw yn rhywle draw, yr hwn a gollid o'r tŷ bob dydd ar amser boreufwyd. Cynted ag y caffai ei fwyd, sef yn benaf llaeth llefrith, sopen llithrig, ac wyneb maidd, ai y bychan yn wastad allan â'i gwpan a'i fara yn ei law. Gwnaeth felly am gryn amser heb neb yn meddwl dim am y peth, ond bod y plentyn yn dewis myned i fol clawdd teg, neu i wyneb yr haul, i gymmeryd ei bryd. Ond o'r diwedd, wrth weled ei fod yn myned allan felly yn rheolaidd bob bore, fel yr oedd y bore yn dyfod, gwyliwyd ef, ac edrychwyd, heb wybod iddo, i ba le yr elai; a chafwyd ef mewn cornelyn lled ddirgel heb fod yn neppell o'r tŷ, a phwy oedd yno yn cydyfed ac yn cydfwyta ag ef o'i gwpan ond llafnes o neidr fraith! Daliwyd i sylwi arnynt wrth eu boreufwyd; cydymborthent yn hynod gyfeillgar; ond os byddai y neidr ambell waith yn dyfod braidd yn rhy fynych i'r cwpan, rhoddai y plentyn gnipws tirion iddi â'i lwy, a dywedai wrthi am beidio â myned â mwy na'i chyfran. Cymmerai hithau yr awgrym gyda phob addfwynder, a deuai drachefn toc i ymofyn am ei llymaid. Dyna'r tro diweddaf iddynt gydfwyta; ni chyfarfuant mwy; canys pan ddeallwyd arfer y plentyn, gwyliwyd y neidr; a phan ddaeth i'r fan yr amser arferol, lladdwyd hi; ond o'r dydd hwnnw allan dihoenodd yntau beunydd a pheunos o alar am ei hen gyfeilles dorchog, a bu farw o'r herwydd.

[ocr errors]

Os da yr wyf yn cofio, y mae chwedlig debyg i hon ym mhlith Chwedlau y Tylwyth Teg gan y Brodyr

Grimm; ond geneth fechau sydd yno, nid bachgen, a llyffant (yn ol ystyr Deheu yn gystal a Gogledd) yn lle neidr; ond clywais y ffregel fechan yma yug Ngheredigion flynyddoedd cyn cyhoeddi gwaith y brodyr hyglod hynny; ac yr oedd yr un a'i hadroddes i mi wedi ei chlywed cyn eu geni hwynt. Mewn gair, y mae hi yn gyffredin ym mhlith gwerin Deheubarth. Y mae y chwedl gan hynny yn chwedl Geltig yn gystal a Thewtonig; a hynny a barodd iddi gael ei chyfrannu i Ysten Sioned.

HEN BEDOLAU.

YCHYDIG iawn o drigolion Cymru yn yr oes hon sydd yn gwybod dim am rinwedd ac effeithioldeb hen bedolau ceffylau i gadw draw bob swynion a rheibiaeth a rheibwyr, y rhai, oni bai hen bedolau a fuasent yn gwneyd rhyw wmbredd o ddifrod ac anfadrwydd mewu tai annedd yn gystal a thai anifeiliaid, drwy eu "llygad drwg."

Pa amser ar oes y byd y daethpwyd o hyd i'r feddyginiaeth, neu yn hytrach y ddarbodaeth, anffaeledig yma, sydd hollol anhyspys i ni; rhaid ei fod ym mhell iawn yn ol; ac fel y mae mwyaf y golled i'n gwlad, mae defnyddio yr antidote syml yma yn myned allan o arfer, fel mae lle i ofni fod y gwylliaid maleisus llygad-ddrwg, rheibionawl hynny yn cael eu ffordd eu hunain, ac yn anafu ac yn dinystrio iechyd ac eiddo pobl ddiniwaid.

Tua deugain mlynedd yn ol, pan oeddym mewn cyflawn oed, a synwyr hefyd fel y cyffredin, yr oedd gwraig gall gyfrifol, wedi cael dygiad da i fyny, ac yn

[ocr errors]

barchus yn y dref, yn byw y drws nesaf i ni. Aethom ar neges ryw ddiwrnod i'r tŷ, ac wrth fyned allan, a hithau yn dyfod i agor y drws i ni, canfyddem, am y tro cyntaf erioed, hen bedol ceffyl wedi ei hoelio ar y drws o'r tu fewn yn lled uchel i fyny. "Yn enw pob peth, Mrs. D——,” meddem ni, "beth y mae honna yn dda yn y fan yna ?" "O'r anwyl! Mr. T-bach,' ebai hithau, "yr ydym yn gorfod ei chadw yna bob amser; ac ni fu ein tŷ ni erioed, er amser fy nhad a'm mam, heb Ꭹ bedol yn ei lle priodol yn y fan yna; a diolch i'r anwyl, mae hi wedi cadw pob aflwydd i ffwrdd er pan wyf yn cofio; "waeth, chwi a wyddoch," ebai hi, "fod cymmaint o hen fenywaid yn myned o gwmpas â "llygad drwg" ganddynt, ac yn gwneyd hafog ar feddiannau pobl." Dyna y wers gyntaf erioed a gefais ar effeithioldeb hen bedolau i gau allan bob math o swynion.

Ym mhen llawer o flynyddoedd ar ol y wers gyntaf, wele yr ail. Yr oedd genyf yn gweithio yn yr ardd ddyn call, synwyrol i'r pen, ac wedi cael cryn dipyn o fanteision addysg. Ar ryw ddiwrnod pan aethym i'r ardd, canfyddwn ar y llidiart bump o hen bedolau wedi eu sicrhau arno, hen bedolau rhydlyd, tair o honynt yn rhai mawrion, a'r ddwy arall yn rhai bychain, wedi bod dan draed un o ferlynod y mynyddoedd. "Beth yw y rhai hyn ?” ebai fi. "Beth! a ydych chwi ddim yn gwybod ?" meddai yntau. Cymmerais arnaf nad oeddwn yn deall beth oedd eu diben. "Wel," meddai yntau, " dyna yr unig beth a geidw bob "llygad drwg" o'r ardd; nid oes dim rhaid i chwi ofni yr un hen witch tra byddo y pedolau o wahanol faintioli wedi ei rhoi ar Ꭹ llidiart." Ас упо cawsant fod am flynyddoedd, gan eu bod yn ei foddloni

« PreviousContinue »