Page images
PDF
EPUB

meddent, "gan fod y cloddwyr tlodaidd cyffredin yn ein hateb mor ddysgedig, beth a all fod yr ysgolheigion goreu yn yr ysgol ?" Mynnai rhai o honynt droi yn eu hol cyn myned ym mhellach; a bu agos i'r fantol droi i'r cyfeiriad hwnnw. Barnai ereill taw gwell iddynt fyned yn eu blaen, gan eu bod wedi dyfod mor agos; ac ym mlaen yr aethant i'r pentref; ac wedi "tynnu i lawr," a rhoi eu ceffylau yn yr ystablau, cawsant bob amgeledd yn nhŷ Edward Rhisiart gan Gwenllian ei fam, y rhai oedd yn byw mewn tafarndy bychan to gwellt. Siomwyd hwy yn ddirfawr wrth weled y pentref â golwg mor dlodaidd arno, ac yn enwedig y Coleg; disgwylient hwy weled adeilad eang hardd, a'i dyrau yn esgyn i'r cymylau; ond yn lle hynny arweiniwyd hwynt i mewn i hen fwtbyn isel hirgul, wedi ei adeiladu â cherryg geirwon a morter pridd, a tho brwyn arno, a simddai yn un pen, a thanllwyth o dân ar lawr o fawn "Cors Lan Teifi;" a'r myfyrwyr yn eu llodrau rib a huganau o frethyn cartref o wlan du'r ddafad, yn rhaffo yr ieithoedd dysgedig, nes yr oedd myfyrwyr boneddigaidd Rhydychain wedi eu taro â syndod. Yr oedd Edward Rhisiart, dealler, wedi rhoddi gorchymmyn i'r bechgyn newid eu dillad, ac ymolchi, a myned at eu gwersi. "Wel," ebai Edward Rhisiart, a gawn ni ddecbreu ? " 66 Na, yn wir," ebai Penaeth Coleg Rhydychain, "yr wyf yn rhoddi i fyny; cawsom ein digalonni, a dweyd y gwir, ychydig cyn dyfod yma;" ac adroddodd pa fodd y bu gyda'r cloddwyr; a'i fod yn gweled nad oedd ganddo yr un siawns gyda'r fath ysgolheigion ag oedd yno. 'Wel," ebai Edward Rhisiart, "nid yw y cloddwyr hynny yn eithriad i holl gloddwyr ac amaethwyr y gymmydogaeth hon o

[ocr errors]
[ocr errors]

amgylch." Synnai hwnnw yn fawr, gan ddywedyd fod gwahaniaeth dirfawr rhwng trigolion Cymru a thrigolion Lloegr. "Dyma y can gini." ebai efe; "chwi a'i piau hi o ddigon." Ymadawyd ar y telerau goreu. Aeth Penathraw Rhydychain a'i fechgyn yn eu hol, ond nid heb gael tâl da am y siwrnai, drwy sylwi ar y dull a'r deheurwydd anghymharol oedd gan Edward Rhisiart i gyfrannu addysg; a bu addysg Coleg Rhydychain yn llawer amgenach ar ol y tro bythgofiadwy hwn: ond dim byd i'w gymharu ag addysg Ystrad Meurig.

Y LLAW OER.

Y mae tri pheth neillduol yn nodweddu pob bwgan, os bydd o'r iawn ryw, ac yn uniawn ei gred; sef, nas gall, neu nas myn, siarad ond â rhyw un pennodol o holl ddynion y byd; nas gall, neu nas myn, siarad â'r un hwnnw, ond pan fyddo ar ei ben ei hun; ac nas gall, neunas myn, ddechreu yr ymddiddan. O fewn holl gylch llenoriaeth bwcïod nid oes hanes fod neb o honynt erioed wedi agoryd ei ben wrth neb, os byddai rhywun arall yn wyddfodol. Nid gwaeth i chwi geisio cael bwch i'r odyn na cheisio gan fwgan ddechreu siarad cyn y siaredir ag ef; rhaid i'r dyn y byddo ef wedi penderfynu, neu wedi cael ei orfodi i, siarad ag ef, ei gyfarch ef yn gyntaf; os amgen, ni fynega yr ellyll mo'i neges; a hyd oni chaffo arllwys ei gwd a thraethu y chwedl sy ganddo i'w hadrodd, ni chaiff y dyn hwnnw byth lonydd ganddo.

Un tro yr oedd bwgan wedi gosod ei nod ar forwyn weini mewn amaethdy, ac â hi, ac nid â neb arall, y

L

mynnai ynddiddan. dilyn braidd i bob man, ac yn ymddangos iddı ym mhob rhith ac ystum ar bob achos a chyfle, a thawelwch nid oedd iddi. Ond yr oedd arui hi ddychryn wrth feddwl am gynnal y fath gynnadledd â'r bwci bal; a gwarchodid hi yn ofalus rhag dygwyddo iddo gael cyfle arni wrthi ei hunan. Yn y dydd edrychid ar fod rhyw un neu chwaneg gyda hi pa le bynnag yr elai; ac yn y nos cysgai rhwng dwy o'i chydforwynion; felly nid hawdd oedd i'r bwci gael cyfle arni; ac oferedd oedd iddo feddwl cael ymgomio â hi.

Deallwyd hyn wrth ei fod yn ei

Ond ar ryw fore yu yr haf, damweiniodd iddi aros yn y gwely ychydig ar ol ei chyd-forwynion, a syrthiodd i gysgu. Aeth y morwynion ereill allan o'r ystafell, ac ni feddyliodd neb y gallasai, a hi yn ddydd goleu, ddyfod o ddim yno i'w haflonyddu. Eithr pan yr oedd hi fel hyn yn cysgu, ag un fraich iddi yn hytrach dros erchwyn y gwely, dyna rywbeth oer arswydus, saith oerach na thalp o ia mis Ionawr, yn ymaflyd yn ei llaw; a chan yr ias aethus a dreiddiodd drwy bob cymmal iddo, hi a ddeffrôdd yn drachwyllt; a phwy oedd yno yn sefyll yn ei hymyl ac yn ymaflyd yn ei llaw ond y bwgan! Nid oedd modd ei ysgoi; ymwrolodd hithau gan hynny i agor yr ymddiddan ag ef yn y dull uniongred arferol; canys rhaid cyfarch ysprydion yn yr Enw Dwyfol, os byddir am gael ganddynt ddadgan en cennadwri. Traethodd yntau ei neges wrthi, gan fynegi yr achos ei fod yn ei haflonyddu, a'r boen a barai hi iddo wrth ymgadw rhag siarad ag ef. Dywedodd wrthi fod hen bedol, neu ryw ddarn o haiarn, neu ryw faint o arian, neu ryw gêr o'r fath, yng nghudd yn rhywle, a'i bod hithau i fyned yno a chyrchu y cyfryw, a gwneuthur y peth

a'r peth â hwynt. Ac wedi traethu o hono ei lên wrthi, diflannodd, a hynny gyda llai o dwrf na bydd arferol gan fwganod ei wneuthur wrth ymadael. Gwnaeth yr eneth yn ol ei gyfarwyddyd, a chafodd lonydd byth o'r dydd hwnnw allan.

Pa ham y mae dwylaw bwganod mor ddychrynllyd o oer? Ai rhy wylaidd ydynt i nesu at dân ac ymdwymo? Ond bid yr achos y peth y byddo, dwylaw oerion ofnadwy sy ganddynt; ac os ydynt felly yn yr haf, fel y tro hwn, rhaid bod yr ewinrew wyllt ar bob cymmal iddynt yn y gauaf; gan fod eu hoerni ar bob amgylchiad y cafwyd prawf arno, yn ddigon i dreiddio trwy fêr esgryn y neb y gorfydd arno eu teimlo.

CWPAN NANT EOS.

YCHYDIG iawn sydd yn ein gwlad, yn enwedig yn y rhan uchaf o Sir Aberteifi, heb weled Cwpan Nant Eos, neu glywed am dano. Cwpan pren lled fychan

ydyw, yr hwn a ddeil yn agos i beint; a'i rinweddau meddyginaethol sydd anghredadwy, O herwydd wedi i bob peth arall fethu, defnyddio hwn a rydd wellâd anffaeledig. Dealler ei fod wedi cael ei lunio allan o'r pren croes ar yr hwn y croeshoeliwyd ein Hiachawdwr, ac felly mae wedi bod drwy yr oesau o fendith ammhrisiadwy i rai oedd yn dioddef oddi wrth y gwaedlif.

Pwy a'i gwnaeth, a pha fodd y daeth i feddiant teulu Nant Eos, sy guddiedig oddi wrthym ni; digon i ni ac i'n holafiaid yw bod ei rinwedd yn parhau er gwellâd, fel ag y bu i'n teidiau a'u teidiau hwythau

yn ol am ddeunaw cant o flynyddoedd. Drwy hynawsedd y teulu rhoddir ei fenthyg i bawb yn rhad ac am ddim; ond er mwyn sicrhau ei ddychweliad, rhaid i'r benthyciwr adael rhywbeth yn wystl am dano. Yr arferiad, y rhan amlaf, yw gadael oriawr yno wrth ei gael. Mae golwg henafol dros ben arno. Bu iddo gracio ryw bryd, a darfu i'r perchenog ei anfon i Landain, a rhoddwyd cylch aur am dano; ond camgymmeriad dybryd oedd hynny; darfu ei rinwedd feddyginaethol yn y fan, ac yr oedd yn rhywyr tynnu y cylch aur ymaith; ac felly y gwnaed, ac y mae ol y cylch ar ei ymyl hyd y dydd heddyw. Y mae darn bychan o'i ochr wedi cwympo ymaith a'i golli; ond nid yw hynny wedi dinystrio dim ar ei allu iachaol, pan y byddo rhyw un yn cael ei flino gan yr anhwyldeb a enwyd. Cyrchir y cwpan o Nant Eos, a cheir cyfarwyddiadau wrth ei gael pa fodd i'w ddefnyddio, yr hyn sydd yn ddigon syml,-sef, hod i'r dioddefydd gymmeryd ei holl ymborth, beth bynnag a fyddo, gwlyb neu sych, am ychydig ddyddiau o'r cwpan dywededig, ac yna nid oes dim perygl am dano; aiff yn holliach. Y mae dim ond yfed y dwfr o hono yn unig wedi profi yr un mor effeithiol.

[ocr errors]

Mae yn awr ar fin hauner can mlynedd er pan y ba ysgrifenydd y llinellau hyn gydag ewythr iddo yn ei hol o Nant Eos at welläu gwraig yn Sir Fynwy ag oedd yn dioddef oddi wrth yr anhwyldeb a grybwyllasom. Yr oedd yn anhawdd ganddynt ei roddi i fyned mor bell; ond drwy daerineb fy ewythr yn dadleu fod y clefyd bron â therfynu yn angenol, a hynawsedd hen geidwades y tŷ, Mrs. Southeron, ac iddo yntau adael ei oriawr, gwerth saith punt, yn wystl, llwyddwyd i'w gael; ac aethom adref yn

« PreviousContinue »