Page images
PDF
EPUB

deyrnwialen. Ymgynnullodd nifer afrifed o adar of bob llwyth a lliw yn rhywle yn entrych awyr; a gwedi prawf teg cafwyd mai yr eryr oedd yr aderyn a ehedasai uwchaf oll; ac felly iddo ef, wrth iawn ac ammod, y disgynai teyrnas y pluf; ond, os ych chwi yn y fan. yna, yr oedd y dryw bach wedi llechu ac ymguddio yn rhywle ym mhluf yr eryr; a phan oedd yr eryr wedi cyrhaedd ei eithafnod pellaf yn yr uchelderau, ymsaethodd y dryw allan o'i loches, ac ehedodd gryn lawer yn uwch nag ef! ef! Parodd y fath ymddygiad y cyffro a'r cymmraw mwyaf ym mhlith yr holl dorf asgellog; ac am yr eryr ei hun, edrychai yn ddiflas guchiog. A phan oeddynt yng nghanol y benbleth a'r cythrudd a'r dyfysgi yma, dywedir fod

"Y dylluan â'r big gam

Yn chwerthin am eu penau;"

yn lle ymddiheuro gyda'r dwysaf ostyngeiddrwydd am ei hymddygiad bongleraidd anesgusodol. Nid oedd modd gwadu nad y dryw oedd wedi ehedeg yn uwchaf o neb. Ond y dryw yn frenin yr adar! Yr oedd y fath syniad yn rhy wrthun i ymresymu yn ei gylch; a phenderfynwyd ar unwaith, heb neb yn tynnu yn groes, fod y dryw i gael ei symmud o'r ffordd, a'i ddienyddu am ei dwyll a'i ddichell a'i ryfyg anoddef. Ym mhlith yr adar y gosp benigol yw, nid crogi, na saethu, na thorbenu, na llabyddiaw, ond boddi. Cafwyd llestr, ac nid oes eisien llestr mawr i foddi dryw. Daeth yr adar yng nghyd, bob un i gyfrannu ei ddyferyn at yr amcan pwysig mewn golwg; ac yn olaf oll daeth y dylluan yno i gyfrannu ei dyferyn hithau; ond wrth wneuthur hynny, sathrodd yn drwsgl ar ymyl y llestr, a diwelodd ef yn gawdel! Collwyd pob defnyn o'r gwlybwr gwerthfawr; diangodd y dryw

rhyfygus â'i fywyd ganddo; ac nid oes hanes iddo. dderbyn na chosp na cherydd am ei wrhydri; canys ymddengys ei fod yn eithaf parchus ym mhith ei gydrywiaid, fel pe na buasai dim wedi dygwydd. Ond costiodd y trwstanwch hwn yn ddrud i'r dylluau, druan; canys o'r pryd hwnnw hyd y pryd hwn casëir hi â chasineb llidiog gan bob perchen aden, a churant hi yn ddidrugaredd pan gaffont afael arni. Dyna pa ham y mae hi yn gorfod ymguddio mewn dirgel fannau anhygyrch y dydd; a phan y gyrrer hi gan newyn i chwilio am ei thamaid, gorfydd arni wneuthur hynny yn oriau'r nos, pan fyddo yr adar ereill yn tawel glwydo, yn esmwyth huno, ac yn breuddwydio wrth fodd eu calon. Gŵyr pawb am ei harfer yn cwan ac yn oernadu yn y nos, yn enwedig ar nosweithiau llwydrewog ym misoedd y gauaf:

"Cw hw! drwy'r nos yn cwan,

A cherth i'm dwy-glust ei chân;"

ond nid yw pawb, ond odid, yn gwybod geiriau cân ei chwynfan, a'r achos neillduol ei bod yn wban mor irad yn llwyn iorwg pen y tŵr." Dyma'r oerlef a glywir ganddi yn ei chân a'i chwyn :

66

"Y mae annwyd ar fy nhraed,
Mae'm cig a'm gwaed yn rhewi,
A dyferyn wrth fy nhrwyn;

O dowch yn fwyn i'r gwely."

Tuedd ymarferol y pennill tylluanaidd hwn yw annog a darbwyllo plantos i fyned i'w gwely yn gynnar ddechreunos, yr hyn nid yw mewn modd yn y byd yn cytuno â'u syniadau hwynt am briodoldeb a chysur.

Ond er mor ddibarch ac ammhoblogaidd yw y

dylluan anffodus ym mhlith perchenogion aden, eto

cofier,

"Mae brân i frân, a gwalch i walches,

A dylluan i'w chymhares."

Chwedl arall o gryn hynafiaeth am y dylluan yw hon :—“ Gwydion, mab Dôn, a wnaeth Gaer Gwydion ; ac efe a gerddwys y bydoedd i ymofyn am Flodeuwedd, gwraig Huon, yr hon a dwyllasai ei gwr; a phan y cafas Gwydion hi, efe a'i troes yn dylluan am ei thwyll, a hithau yn caru'r tywyll, ac nis carai oleuni." Adroddir yr un chwedl yn llawer helaethach ym Mabinogi Math fab Mathonwy; ond y rhan ganlynol o hon sydd yn dwyn cyssylltiad pennodol â'r Dylluan. "Yna dygyforiaw Gwynedd a wnaethant, a chyrchu Ardudwy. Gwydion a gerddwys yn y blaen, a chyrchu castell a orug. Sef a wnaeth Blodeuwedd, clybod eu bod yn dyfod; cym'ryd y morwynion y gyda hi, a chyrchu y mynydd; a thrwy afon Gynfael, cyrchu llys a oedd ar y mynydd; ac ni wyddynt gerdded rhag ofn, namyn ag eu hwyneb drach cefn; ac yna ni wybuant yni syrthasant yn y llyn; ac y boddysant oll eithr hi ei hunan. Ac yna y gorddiweddawdd Gwydion hithau, ac y dywawd wrthi, 'Ni laddaf di; mi a wnaf y sydd waeth i ti: sef yw hynny, dy ellwng yn rhith ederyn; ac o achaws y cywilydd a wnaethost ti i Lew Llaw Gyffes, ni beiddych dithau ddangos dy wyneb wrth liw dydd fyth: a hynny rhag ofn yr holl adar, a bod yn anian iddynt dy faeddu a'th ammherchi y lle y'th gaffont; ac na chollych dy enw, namyn dy alw fyth Blodeuwedd.' Sef yw Blodeuwedd, tylluan o'r iaith yr awr hon; ac o achaws hynny y mae dygasawg yr adar i'r tylluan; ac ef a elwir etwa y tylluan yn Flodeuwedd."

Nid yw y beirdd wedi anghofio Blodeuwedd, a'i dullnewidiad yn dylluan. Cyfeirir at y chwedl mewn un o'r cerddi a briodolir i Daliesin; a thraethir hi yn gyflawnach fyth gan Ddafydd ab Gwilym yn un o'i gywyddau dychan i'r "Wyll fladr a gân i'r lladron.'

[ocr errors]

Os clywch y tylluan yn ysgrechain ac yn oerradu yn agos i'r tŷ, arwydd ydyw o farwolaeth rhywun o'r teulu.

Y Dryw.-Cyn ymadael â'r Dryw, rhaid gwedyd gair ym mhellach am dano. Er mor fychan, eiddil, a distadl ednog ydyw, ac er mor ddirieidus a chyfrwys y bu yn ei orymgais am freninaeth yr adar, nis gellir torri ei nyth dlos ef yn diberygl; canys, "Y neb a dorro nyth y dryw,

Ni chaiff iechyd yn ei fyw :
A'r neb a dorro nyth y wennol,

Ni chaiff fywyd (iechyd) yn dragwyddol!"

Neu fel hyn, ychydig yn esmwythach:

"Y neb a dorro nyth y dryw,

Ni wel fwyniant yn ei fyw;
Y neb a dorro nyth y wennol,

Ni wel fwyniant yn dragwyddol."

Y Wennol.-Son am y Wennol, y mae llawer mwy o lên gwerin yn perthyn iddi nag a fedraf fi ei adrodd.

Credid gynt fod y wennol, yn gystal a'r gog, yn un o'r "saith gysgadur:" canys coeliai ein hynafiaid fod saith o'r creaduriaid perthynol i'r wlad. hon yn cysgu yn y gauaf, ac yn deffro pan ddelai gwanwyn â chynhesrwydd i'w dadebru. Bernid fod У wennol yn bwrw tymmor yr oerfel mewn ceudyllau, holltau yn y graig, ïe, ac weithiau yn llechu yng ngwaelod llynoedd ac afonydd: ond y mae yr anian

yddion wedi bod yn ymyrryd â'r gred hon hefyd, ac wedi ei halltudio i "garchar Oeth ac Anoeth," fel y rhan fwyaf o'r hen gredoau cysurus ereill.

Ymddengys y wennol yn y Dywysogaeth tua chanol mis Ebrill; ac os dygwydd i ambell un ymddangos dipyn yn gynt, cofier,

"Un wennol ni wna wanwyn."

Pan ddychwel atom o'r hinsoddau clauarach, y mae yn gweled cryn gyfnewidiad wedi dygwydd, a chwyna o'r herwydd fel hyn:

66

Gwyl Fair ddiwedda',

Pan eis oddi yma,

Mi adewais lawer o yd;
Gwŷr â ffustau,

Gwragedd a gwagrau,

Aethant ag e ymaith i gyd, i gyd!"

Gwyl Fair ddiweddaf y sonir am dani yma yw cofwyl Genedigaeth Mair Forwyn, ar yr 8fed o fis Medi ;* ac o ddeutu yr amser hwnnw, neu ychydig yn gynt, y mae y wennol yn cefnu arnom, ac yn ymfudo tua pharthau cynhesach y deheu, nes byddo'r gauaf oer ei naws wedi peidio â thraws-reoli. Yna y dychwel atom drachefn, a llon fydd pawb o'i gweled.

* Y mae chwech Gwyl Fair yn dygwydd yng nghorff y flwyddyn. Y gyntaf yw Ymddwyn Mair Forwyn, Rhagfyr 8fed; yr ail, Gwyl Fair y Canwyllau, neu Buredigaeth Mair, Chwefror 2fed; y drydedd, Gwyl Fair y Cyhydedd, neu Gyfarchiad Mair, Mawrth 25med; y bedwaredd, Ymweliad neu Ofwy Mair, Gorphenaf 2fed; y bummed, Dyrchafiad Mair, Awst 15fed; a'r chweched, Genedigaeth Mair, Medi 8fed. Nid yw y bummed wyl yn y Llyfr Gweddi Gyffredin; ond ceir hi, mewn llythyren goch, yn y Calaniadur Pabaidd. Sylwer fod y flwyddyn eglwysig yn dechreu gyda'r Dawodiad neu Adfent, ac nid gyda'r Calan. Geilw rhai o'r hen amseronïau Cymraeg Wyl Dyrchafiaid Mair ym mis Awst yn Wyl Fair gyntaf, yr hyn sydd amryfus, canys y bummed, a'r olaf ond un, ydyw.

« PreviousContinue »