Page images
PDF
EPUB

Y DDWY GOES BREN.

Y MAE yn hen draddodiad yng Ngogledd Cymru er ys oesau, y bydd i bwy bynnag a elo wrtho ei hun at ddrws yr eglwys blwyfol am ddeuddeg o'r gloch y noson olaf o'r flwyddyn, ac aros yno i glustfeinio am ychydig fynydau, y caiff glywed yr holl helyntion pwysig a ddygwyddant yn ystod y flwyddyn ddilynol yn y plwyf.

Mewn treflan yn Sir Ddinbych, er ys amryw flynyddoedd yn ol, mewn tafarndy ger llaw y fynwent, yr oedd amryw gymmydogion wedi crynoi at eu gilydd i gyd-yfed y flwyddyn allan, ac i siarad am helyntion y gymmydogaeth; ac wedi iddynt ymloni nes ei myned yn lled hwyr, coffaodd un o'r gyfeillach yr hen draddodiad, a chymmerwyd y peth i fyny gydag ynni a gwresogrwydd. Annogwyd un, ac ail, a thrydydd iymgymmeryd â'r anturiaeth, ond gwrthodai y naill ar ol y llall; ond yr oedd yno un yn fwy gwrol, neu, fe allai, yn ffolach na'r lleill, a dywedai yr ymgymmerai ef â'r gorchwyl gyda hyfrydwch; a mawr y llawenydd yn eu plith, a churent ei gefn yn annogaethol iawn, a rhoddwyd iddo amryw o hanner peintiau yn chwanegol i'w gryfhau a'i wroli yn yr anturiaeth bwysig. Ac fel yr oedd yr amser yn nesäu, cychwynodd yng nghanol bloeddiadau y cyfeillion cynnulledig drwy borth y fynwent, ac ym mlaen rhwng y beddau at ddrws yr eglwys, yn y tywyllwch a'r distawrwydd mwyaf. Yna, rhoddes ei glust wrth y drws, gan feddwl y buasai y bod uwchnaturiol yn sibrwd yr holl ddirgelion yn ddistaw bach wrtho drwy y rhigolau oedd yn yr hen ddôr; clustfeinio yr oedd nes tarawodd

cloc yr eglwys ddeuddeg o'r gloch; ond nid oedd dim argoel am ddim; yna, penderfynodd fod awrlais y byd hwn yn rhyw gymmaint ar y blaen ar amser y byd arall, a chafodd amynedd i ddisgwyl wrth amser hwnnw; ac yn y man, clywai ryw beth

yn araf gerdded i lawr oddi wrth y ganghell, gyda rhyw si fel pe buasai gwisgoedd sidanaidd am dano, ac yn cryfhau fel yr ydoedd yn dynesu at y drws; gwrandawai yntau yn astud, ac yn lle sisial ei newyddion yn ei glust yn arafaidd, wele hen ddrws yr eglwys yn agor yn ei hanner, a'r ddau ddarn yn cael eu tynnu yn ol fel cortynau gwely, gydag ysgrêch a thwrf ofnadwy. Methodd â dal yr olygfa ddychrynllyd, ac ymaith ag ef nerth ei draed yn ei unionsyth dros y beddfeini; a chan fod y ffordd oedd yn myned gyda gwal y fynwent gymmaint a deuddeg neu bymtheg troedfedd is law gwyneb y fynwent, aeth (druan o hono !) i lawr bendramwnwgl; daeth ato ei hun mewn amser, a chafodd allan ei fod wedi torri ei ddwy goes yn ysgyrion, a bu raid i'r meddygon dorri y ddwy i ffwrdd uwch law y benlin; gwelwyd ef am flynyddau lawer ar ol hyn yn symmud yma a athraw drwy gymhorth dwy goes bren.

Y CYDWELY ANGHYNHES.

Ek ys amryw flynyddau yn ol, aeth dau ddyn ieuanc,. dau saer coed, o Sir Gaerfyrddin (o herwydd bod y gwaith yn brin yn eu hardal enedigol) i lawr i Loegr i chwilio am waith yn rhai o drefydd mawrion y wlad honno. Teithient yr amser hwnnw, wrth gwrs, ar eu

traed; a phan oeddynt wedi cyrhaedd rhyw dref yn Swydd Gaerwrangon, gwnaethant en meddwl i fyny i lettya mewn hen dŷ tafarn mawr ar eu mynediad i'r dref. Yr oedd hyn yng nghanol y gauaf, a chawsant fyned i'r gegin o flaen y tân cysurus oedd yno. Ar ol iddynt fwyta eu tamaid, a chael ychydig beintiau o ddiod, a chan ei bod yn lled hwyr, meddyliasant mai gwell oedd iddynt fyned i orphwys, gan eu bod wedi blino yn enbyd. Arweiniwyd hwynt i fyny i'r llofft, ac ym mlaen drwy fynedfa hir, o ba un yr oedd amryw ddrysau yn agor i ystafelloedd i gysgu. Euw y naill oedd Dafydd, a'r llall oedd Thomas. Aeth Dai (fel y galwai ei gyfaill ef) rhag ei flaen i'r gwely; a chyn i Tom fyned, diffoddodd y ganwyll. Erbyn hyn, cofiodd Tom fod ganddo ryw beth heb ei gyflawni cyn dyfod i fyny; ac, ebai fe wrth Dai, "Rhaid i mai fyned i lawr eto." "A wyt ti yn gwybod y ffordd," ebai Dai. "Mi treiaf hi, beth bynnag," ebai Tom; ac i lawr ag ef. Ym mhen tipyn, trodd yn ei ol ac i fyny y grisiau, ac ym mlaen, a throdd i mewn i ystafell, ac wedi ymddihatru, i'r gwely ag ef rhag blaen. "Mae hi yn oer ofnadwy, Dai," ebai Tom; ond nid oedd neb yn ateb; nesa draw, Dai," ebai fe; "yr wyt ti yn cadw y gwely ym mron i gyd; a wyt ti'n cysgu, Dai? Wyt, mi warantaf," meddai Tom; "yr wyt ti, fel finnau, wedi blino." "Lle tost yw hwn i lettya, Dai," ebai Tom; "nid oes dim byd ganddynt hwy ar y gwely-dim ond un pilyn; pwy synwyr talu am le fel hyn?" Ac ar yr un pryd ymwasgai at Dai i geisio cynhesu. "Yr wyt ti yn oer arswydus, Dai; fachgen, yr wyt ti fel y rhew." A dyna lle Ꭹ bu Tom bron a sythu am rai oriau, ac yn methu cysgu yn lân. Erbyn hyn, yn nistawrwydd y nos, clywai swn traed amryw yn dyfod i fyny y gris

66

iau, ac ym mlaen ar hyd y corridor, ac wele ddrws yr ystafell yn agor gan ddyn â chanwyll yn ei law, ac yn ei ganlyn yr oedd dau neu dri o ddynion yn dwyn arch (coffin)! Cododd Tom ar ei eistedd, a phan welodd yr arch, ysgrechodd allan nerth esgyrn ei ben, "Mwrdwr! mwrdwr!! mwrdwr!!! o 'mywyd i! help! mwrdwr!" Ar hyn syrthiodd y ganwyll o law y dyn a'i dygai, a diffoddodd. Dychrynodd pawb, fel y taflasant yr arch i lawr, a ffwrdd â hwynt i lawr y grisiau bendramwnwgl ar draws eu gilydd mewn dychryn, a Tom yn gwaeddi, "Mwrdwr! mwrdwr!!" fel gwallgofddyn, gan dybied yn sicr eu bod wedi rhoi i fyny mewn tŷ drwg, a bod y dynion yn bwriadu eu lladd er mwyn eu harian, ac mai dyna oedd y diben o ddwyn yr arch i'w roddi ef ynddi. Ym mhen amser, daeth yr un dynion i fyny eilwaith, yn ymafael y naill yn llaw y llall, a phob o ganwyll oleuedig ganddynt y tro hwn, gan nesu yn araf ym mlaen, a chyn pen hir iawn, daethant i ddeall eu gilydd.

Fe wel y darllenydd fod Tom, druan, wedi camsynied yr ystafell, ac wedi myned i un lle yr oedd corff marw wedi ei ddodi ar y gwely a chynfas drosto.

Meddyliodd y dynion, o'r ochr arall, fod y marw wedi codi yn fyw, neu ynte fod ei yspryd yn tystio ei fod yn cael cam yn rhywle; ac o herwydd fod y goleu wedi myned allan, dychrynasant tu hwnt i fesur, a gwnaethant y goren o'u ffordd.

Bu canlyniad y noson honno yn chwerw i Tom, druan; cafodd anwyd trwm, fel y daeth y cryd cymmalau arno, ac a'i gwnaeth yn analluog i ddilyn ei orchwyl am ei oes; a bu orfod arno symmud o'r naill fan i'r llall ar bwys dwy ffon o'r pryd hwn hyd ei fedd.

Y FFRANCWR IEUANC.

TUA phump a deugain o flynyddoedd yn ol, yr oedd morwr ieuanc o Ffrancwr yn un o'r dwylaw ar lestr perthynol i Aberystwyth, a chan ei fod felly am gryn amser, daeth yn lled adnabyddus yn y dref. Y pryd hwn hefyd yr oedd geneth ieuanc o'r gymmydogaeth yn gweini gyda theulu parchus ar y Terrace.

Daeth y Ffrancwr ieuanc yn gydnabyddus â hi; a mwy na hynny, yr oedd y ddau wedi syrthio dros eu penau mewn cariad â'u gilydd. Un noson pan yr oedd y morwr ieuanc ar fordaith bell, yr oedd geneth arall yno yn cydweini, yr hon, y noson grybwylledig, a aeth i'r gwely ag oedd uwch ben y gegin allan, a hithau yn parotoi i fyned ar ei hol. Clywent y Ffrancwr ieuanc yn galwv droion ar ei gariad wrth ei henw; adnabu hithau ei lais ar unwaith, ac felly y gwraeth ei chyfeilles; synent yn fawr, gan eu bod yn disgwyl ei fod ym mhell oddi yno ar y pryd; ac, ebai yr eneth wrth ei chyfeilles oedd ar y llofft, " Mae hwn a hwn (gan enwi y Ffrancwr) yna, gollwng ef i mewn. “Na wna i, yn siwr, gollwng di ef; arnat ti mae ef yn galw." Felly, hi a agorodd y drws, a phwy oedd yno ond efe yn estyn ei law iddi, ond heb ddywedyd dim; hithau yn gofyn iddo amryw gwestiynau, ond ni ddywedai air, ac felly yr ymadawodd, a cherddodd allan drwy yr ardd oedd yn y cefn i'r lle a elwir yn awr Newfoundland Street.

[ocr errors]

Synodd hi yn anghyffredin at ei ymddygiad y tro hwn,-mor wahanol i'w arferiad bob amser; aeth i mewn, ac adroddodd y cwbl wrth yr eneth arall; ceisient ddychymmygu beth a allasai fod ei fwriad, ond methent a dirnad beth oedd y rheswm am y cyfnewid

« PreviousContinue »