Page images
PDF
EPUB

Y FERCH O'R BEILI EINON.

TUA chant a hanner o flynyddoedd yn ol, yr oedd yn trigiannu yn Aberystwyth wr o'r enw John Williams, neu, fel y gelwid ef yn gyffredin, Sion William; ei alwad oedd morwriaeth; ac yr oedd yn llywydd ar long fechan o'i eiddo ei hun, a elwid y Twenty Tons. Dywedir mai dyna oedd hi yn abl i'w gario, ond hwyrach mai dyna oedd ei mesuriad; os felly, yr oedd, yn ol yr hen fesur, yn gyfaddas i gario deg neu bymtheg tunnell ar hugain. Pa un bynnag, yr oedd yn un o'r llongau mwyaf oedd yn perthyn i'r porthladd hwnnw y pryd hynny. Y dwylaw oeddynt gynnwysedig o ddau neu dri, sef ei wraig a'i fab, a hwyrach hogyn gyda hynny.

Nid oedd ganddynt ond un plentyn, sef y mab hwn, yn fachgen glandeg, heini, a siriol dros ben; a phan aeth y llanc yn wr ieuanc, yn rhywle rhwng again a phump ar hugain oed, penderfynodd gael llong iddo ei hun; a'r amser hwnnw, fel am ugeiniau o flynyddoedd gwedi hynny, cyrchid agos yr holl goed i adeiladu llongau yn Aberystwyth o Sir Faesy fed. Aeth y gwr ieuanc yma, enw yr hwn, fel ei dad, oedd John Williams, i Sir Faesyfed i brynu coed at ei long newydd; ac yng nghymmydogaeth y Rhaiadr canfu wrthddrych na welodd erioed o'r blaen mo'i chyffelyb— geneth ieuanc brydweddol, hawddgar, a serchog, sef merch y Beili Einon-fferm helaeth, a'r tŷ yn hanner plas, ger llaw y ffordd fawr sydd yn arwain o'r Rhaiadr Gwy i Ben y Bont. Ei rhieni oeddynt bobl gyfrifol a chyfoethog. Ymserchodd John Williams yn y ferch, a'r ferch ynddo yntau. Pan y deallwyd

hyn, caed allan nad oedd y gwynt yn deg, a bod morio yn y ffordd yna weithiau yn beryglus; tymmestloedd geirwon a godent, nid o gyfeiriad y môr, ond o'r tir; a bu'r ddau mewn enbydrwydd am eu heinioes (briodasol). Dywedir nad oedd Chubb a'i “gloiau breintebol" i'w cael yn y dyddiau hynny; a phe buasent, y mae cariad yn chwerthin am ben pob dyfeisiau o'r fath, er pawb a phob peth. Er anfoddlonrwydd y fam, a digllonedd y tad, priodi a fynnent, a phriodi a wnaethant; gan na chaffai John Williams ei gariad drwy deg, aeth â hi heb wybod iddynt; ac y mae y gair ar led fod peth o'r elfen yma wedi treiglo i lawr drwy y teulu hyd yn ddiweddar iawn.

Daethant i fyw i Aberystwyth; gorphenwyd y llong newydd; ganwyd iddo fab, a bedyddiwyd ef yn William; a phan oedd y bychan yn dair neu bedair blwydd oed, cymmerodd y Cadben Williams ei wraig a'i fab gydag ef yn y llong, a buant felly am ryw gymmaint o amser yn mɔrio.

Ar fore teg tawel yn yr haf, yn rhyw le yn Cardigan Bay, cyfarfuant â'r Twenty Tons, sef llong eu tad, yn myned adref i Aberystwyth; deisyfodd y tad cu a'r fam gu am gael William bach, sef eu hŵyr, i fyned adref gyda hwy. O'r diwedd gildiodd y tad a'r fam iddynt ei gael; a chyrhaeddodd Sion William a'i wraig a'r ŵyr yr hafn dymunol yn y prydnawn; ond y noson honno cododd yn ystorm o wynt dychrynllyd, a'r môr yn ymgodi fel mynyddau mawrion; a galarus adrodd, aeth llong John Williams i'r gwaelod; collodd ef a'i wraig, a phawb oedd ynddi, eu bywydau, heb neb i fynegu pa fodd y bu. Ym mhen rhai dyddiau ar ol hyn, daeth cyrff y ddau i'r lan yn agos i Fochras, yn Ardudwy, y naill yn cofleidio y

Hall, ac nid hawdd oedd eu tynnu oddi wrth eu gilydd, o herwydd eu bod wedi sythu yn yr agwedd honno; a thrueni fuasai eu hysgaru. Claddwyd hwynt felly yn yr un bedd, ac yn yr un arch, yn mynwent Llandanwg. "Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd, ac yn eu marwolaeth ni wahanwyd hwynt."

Adnabyddid eu mab ar ol hynny wrth yr enw William Sion William, gan mai ei dad cu a'i magodd; a bu fyw oes faith, ac am lawer o flynyddoedd yn gadben llong; ac ar ol rhoddi y môr i fyny, bu yn Harbour Master yn Aberystwyth.

Bu Sion William a'i wraig fyw i gyrhaedd oedran mawr, uwch law nawdeg o flynyddoedd, a buant feirw o gwmpas wythdeg a dwy o flynyddau yn ol. Y mae eu hiliogaeth y dydd hwn yn lluosog, ac yn gwneyd i fyny ran helaeth o drigolion Aberystwyth; heb law ereill "sydd ar led y byd." Y maent ar y cyfan yn bobl gywir, onest, a chrefyddol; o natur braidd yn finiog, a'u teimlad, i raddau yn clannish; edrychant yn ammhëus a'r estroniaid a fyddant yn dyfod i gyssylltiad â hwynt; ond wedi iddynt ddyfod, cyfrifir hwynt bron fel rhai o'r teulu. Mae genym barch iddynt oll, a mwy na hyny i un ag y sydd yn orwyres i'r hawddgaraf ferch o'r Beili Einon.

NANSI'R FAGABONIAD.

DYNA enw oedd yr ddigon adnabyddus yng nghanolbarth Sir Aberteifi y rhan flaenaf o'r ganrif bresennol. Hen ferch hannercall, gyfrwysddrwg, a thafodrydd tu hwnt i ddysgrifiad oedd Nansi; ac yn derbyn ei chynnaliaeth gan y plwyf. Gwyddai hanes pawb a phob

peth drwy y cymmydogaethau; ac os byddai rhyw anhap wedi dygwydd i neb, yr oedd y cyfan ganddi hi, a byddai yn ei adrodd gyd a "nodiadau a chwaneg iadau" ym mhob man yr elai. Nid oedd neb yn dewis ei gweled yn dyfod yn agos i'w tai; ond o herwydd prinder arian yr amseroedd hynny, byddai ffermwyr y plwyf yn ei chadw yn eu tai am fis az gylch, drwy gael tâl da gan arolygwr y tlodion am hynny. Ond yr oedd pawb yn hiraethu am weled y mis yn tynnu at ei derfyn i gael gwared o honi.

Adwaenid un o'r plwyfolion dan yr enw Nat Pen Cefn, dyn yn cadw fferm o faiutioli cyffredin; a chyda hynny arferai gludo coed o Sir Faesyfed i adeiladu llongau yn y Graig Las ac Aberaeron. Un tro dygwyddodd yn anffodus, pan oedd ef â Thwm Ysgubor Hen, yng nghyd ag un arall o'r gymmydogaeth, yn llwytho coed mewn dyffryn cul ag y sydd yn troi allan o'r ffordd fawr sydd yn arwain o Raiadr Gwy i Lanfair Muallt. Hen greadur tirion, cymmwynasgar, a charedig oedd Nat yn gyffredin; ond pan y byddai rhyw beth yn ei gyffroi, gwylltiai mewn eiliad, a chollai bob llywodraeth aruo ei hun, a tharawai y nesaf ato â'r peth a ddygwyddai fod yn ei law; ac felly bu y tro hwn; aeth rhyw gamddealltwriaeth rhyngddo a'i gyfaill Twm o'r Ysgubor Hen, a dygwyddodd fod y fwyell yn ei law ar y pryd; a tharawodd Twm yn ei ben, a lladdodd ef yn y fan. Nid amcanai Nat wneyd y cyfryw beth, a theimlai yn dost o herwydd yr anffawd dorcalonus; ond nid oedd dim i'w wneyd ond gwneuthur y goreu o'r gwaethaf. Ar y cychwil neu'r trengholiad, cafwyd allan fod Twm wedi cael ei ddiwedd drwy i bren mawr syrthio arno wrth lwytho y bedrolfen. Aeth hynny drosodd; ond ni allai y

E

trydydd person, mae yn debyg, fod yn berffaith ddistaw. Sibrydid o bryd i bryd yn y gymmydogaeth nad oedd y dygwyddiad yn hollol fel y tystiwyd ar y cychwil; ond ni feiddiai neb ddywedyd dim yn eglur.

Ym mhen blynyddoedd lawer ar ol y dygwyddiad uchod, aeth Nat Pen Cefn yn sal, ac yr oedd pob arwyddion ei fod yn nesäu i farw; a theimlai Nat ei hunan fod y babell bridd yn ymollwng; a deisyfai gael ychydig nifer o gymmydogion yng nghyd i gadw cyfarfod gweddi gydag ef. Daethai cryn nifer ar ei ddeisyfiad, a chynnaliwyd y cwrdd. Wrth y tân eisteddai yr hen Nansi Ꭹ soniasom am dari; gan mai Nat Pen Cefn oedd yn "cadw ei mis" hi ar y pryd. Cadwai Nansi y lle goreu, a'r nesaf at y tâu, pa le bynnag y byddai yn cartrefu, er pawb ar bob amgylchiad. Ar ol diwedd y cwrdd aeth y cyfeillion at y gwely, i'r "pen isaf," i ysgwyd llaw, a chanu yn iach i'r claf. "Wel, gyfeillion bach," ebai Nat, "nos da'wch i gyd, a ffarwel hefyd; mae yn debyg mai yn Ꭹ nefoedd Ꭹ cwrddwn nesaf." "Beth," ysgrechai yr hen Nansi o ymyl y tân, "yn y nefoedd 'wedaist ti, aie ? Mae gen' ti lawer o waith settlo â Thwm Ysgubor Hen cyn byth y cyrhaeddi di yno!" Aeth yn ddistawrwydd mawr, ac aeth pawb i'w ffordd heb ddywedyd gair. Yr oedd Nat wedi marw cyn y bore.

Dylasid hyspysu y darllenydd yn gynt y byddai y cymmydogion yn gweled yspryd Twm Ysgubor Hen yn rhodio yn hamddenol o gwmpas Pen Cefn, ac yn ysgwyd bwyell danllyd gyferbyn â'r tŷ, ac yn ymadael fel olwyn o dân dros y mynyddoedd tua Rhaiadr Gwy!

« PreviousContinue »