Page images
PDF
EPUB

Y FFYNNON FYW.

Ym mhlwyf Llangïan, yn Lleyn, Swydd Gaernarfon, yn agos i bentref bychan distadl, noethlwm, dadfeiliog Welington, neu, ar lafar yr ardal, "Y Wilings," yr oedd gynt Ffynnon ragorol ya bwrw allan helaethrwydd o ddwfr gloew odiaeth, ag ynddo, meddai yr hen bobl, lawer iawn o rinweddau i welläu gwahanol glefydau a doluriau. Gelwid hi y Ffynnon Fyw, ac yr oedd y dwfr bywiog a darddai i fyny ynddi, ac a redai yn ffrwd gref allan o honi, yn rhoddi iddi gryn hawl i'r cyfryw enw. Hi oedd y ffynnon glodforusaf yn yr holl ardaloedd hynny ond Ffynnon Leudad, ym mhlwyf Bryncroes, nid neppell o Aberdaron, os nad oedd hi yn rhychor i horno; a chyrchid ati gan lawer o gleifion o bell ac o agos, yn enwedig y sawl a flinid gan y cryd cymmalau, yr hwn anhwylder sy bur gyffredin yn Lleyn; ond y mae ei gogoniant drosodd, a'i defnyddioldeb wedi darfod. Amryw flynyddoedd yn ol darfu i ryw ddynionach bawaidd fod mor anystyriol ac anwar a thaflu iddi gelain ci. Peidiodd ei dyfroedd ar unwaith, a sych ydyw, haf a gauaf, o'r pryd hwnnw hyd y pryd hwn. Y tro diweddaf yr ymwelais â hi, ryw ugain mlynedd yn ol, nid oedd ynddi ddim dwfr; ond yr oedd peth o'r maenwaith a'i hamgylchasai gynt fyth yn aros ; ac ond odid nad oes rhyw faint o hono yn aros hyd heddyw. Bernir mai ffynnon gyssegredig i Cir Ferthyr ydoedd y Ffynnon Fyw; canys y mae traddodiad yn y gymmydogaeth fod eglwys gyflwynedig i'r sant hwnnw yn sefyll ger llaw y fan yn yr oesoedd gynt; a chaed rhywbeth tebyg i weddillion hen fynwent yn agos yno o fewn cof rhai sydd yn awr yn fyw.

AERONWYDD MARGAM.

PAN ymwelodd Tywysog Cymru ag Abertawy yn Hydref 1881, efe a blannodd bren ffrwyth ym Margam, pan yr ydoedd ar ei daith tuag yno. Nid y waith hon yw y waith gyntaf fod a fynno breninoldeb ag aeronwydd Margam. Y mae ar gof a gafael hanesyn i'r perwyl canlynol.

Aeronwydd Margam a gyrchwyd o'r Eidal, gan Syr Harri Wotton, dros y Brenin Siarlas y Cyntaf. Ond pan oedd y llong a'u dygai ar ei mordaith, cyfododd tymmestl-wynt aethus, yr hwn a'i gyrrodd hi i Fôr Hafren, lle y tarawodd ar y traeth yn agos i Fargam. Erbyn hyn yr oedd y Brenin a'r Senedd ben yng nghad â'u gilydd, ac yn y benbleth a'r terfysg anghofiwyd yr aeronwydd y gyrrasid mor bell i'w cyrchu: plannwyd hwynt, gan hynny, rhag eu myned yn ofer, yng ngerddi harddwych Margam. Pan adferwyd teyrnogaeth, a dyfod Siarlas yr Ail i'r orsedd, nid oedd hwnnw, mwy na'i frawd Iago, yr hwn a'i holiannodd, yn gofalu dim am y fath bethau; ac nis gellid disgwyl fod gan Wilym yr Isallman ddim archwaeth at arddoriaeth na phlennyddiaeth; ond pan ddaeth y Frenines Ann i arwedd coron y deyrnas, hi a gyflwynodd yr aeronwydd hyn i'r Arglwydd Mansel, o Fargam; ac, medd un a ysgrifai er ys llai na chan mlynedd yn ol, y maent yno yn awr mewn llysieudy hardd dros ben o gerryg nadd addurnedig, a'r mwyaf yn y deyrnas; a'r ffrwythau yn addfedu yn dda iawn arnynt. Hyd y gŵyr yr ysgrifenydd presennol, y maent yn yr un cyflwr llewyrchus hyd y dydd heddyw.

YSPRYD CORELWEST.

AMRYW flynyddoedd yn ol daethai un o Weinidogion enwog o Sir Gaernarfon, a chydag ef flaenor parchus ac adnabyddus iawn i lawer drwy Gymru yr amser hwnnw, i Gymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd, a gynnelid yn Aberystwyth; a rhoddent i fyny gyda'r diweddar Mr. Robert Davies, Masnachydd, yn yr Heol Fawr, tŷ yr hwn oedd yn llawn o ddieithriaid, fel llawer o dai ereill yn y dref, yn amser y Gymmanfa; a chan fod mwy o helaethrwydd yng nghalon y gwr hwnnw nag oedd yn ei dŷ, talai am welyau i amryw mewn tai oedd yn derbyn dieithriaid.

da

Y tro hwn cymmerodd wely i'r ddau wr y sonir am danynt uchod gyda Mrs. Lewis, yn y Coburg House, ar y Terrace; mae y tŷ hwnnw yn bresennol yn rhan o'r Belle Vue Hotel. Arol swpera yn nhŷ Mr. Davies, hebryngwyd hwynt i lawr i'w lletty; aethant i'r gwely; ond cyn hir clywent lawer o symmudiadau yn yr ystafell nesaf, a dawnsio, yng nghydag offerynau cerdd yn lleisio, fel nad oedd yn ddichonadwy iddynt gysgu; ac yn ddisymmwth clywent ryw beth trwm yn cwympo ar y llawr; a dyna y dawnsio a'r beroriaeth ar ben; a rhai yn rhedeg i fyny ac i lawr y grisiau, a phob peth yn profi fod rhyw beth pwysig wedi cymmeryd lle; a chyn hir wele ddrws eu hystafell hwythau yn agor, fel pe buasai llawer o ddynion yn dyfod i mewn yn dwyn rhyw beth a'i ddodi ar y bwrdd. Ac yn y man aeth y cwbl yn hollol ddistaw. Yr oedd y ddau wr dieithr wedi dychrynu yn anarferol, ac ni chysgasant drwy y nos. Drannoeth adroddasant yr holl helynt wrth Mr. Davies; nis gallent ddyfalu beth oedd yn bod.

[ocr errors]

Yr wythnos ganlynol, ar ol iddynt ddychwelyd adref, derbyniasant lythyr oddi wrth Mr. Davies yn eu hyspysu am y peth a ddygwyddasai "neithwyr' yn y Coburg House; sef bod teulu o Saeson wedi cymmeryd yr ystafelloedd hynny gan Mrs. Lewis, a'u bod wedi cadw dawnsfa neu gorelwest yno y nos o'r blaen, ac ar ganol y dawnsio, syrthiodd boneddiges ieuanc i lawr yn farw ar ganol yr ystafell. Defnyddiwyd pob moddion er ei hadferyd, ond yr oedd y wreichionen fywiol" wedi dianc, a rhoddwyd hi "heibio " ar fwrdd yn yr ystafell lle y gorphwysai y ddau wr o Sir Gaernarfon yr wythnos o'r blaen.

[ocr errors]

TRO AR FYD.

WRTH fyned ar hyd y ffordd fawr o Aberystwyth i Ystrad Meurig, ac yng nghylch dwy fiilltir a chwarter o'r lle blaenaf, deuir i waelod y dyffryn bychan prydferth a elwir Dyffryn Paith; ac wrth y bont sydd yn croesi yr afonig fechan honno mae y Pandy. Nid oes yno yn bresennol un pandy; ond bu felly am lawer iawn o flynyddoedd, a dygid y gorchwylion hynny ym mlaen gan wr o'r enw Dafydd Morris, gwr da, ac yn feddiannol ar amryw ddoniau, ond yn benaf, cerddoriaeth oedd ei brif ddifyrrwch. Bu fyw yn hen lanc dibriod nes y gorfu arno, ar ol marwolaeth ei fam, geisio rhyw un i'w am geleddu ; a phan aeth yr hen lanc i hwylio am wraig, aeth, bid sicr, fel llawer o'i gyffelyb, i chwilio am un i blith y merched ieuanc, a chafodd un dda iawn, yr hon a fu yn amgeledd cymhwys iddo tra y bu ef byw.

Tuag ugain mlynedd yn ol, ar fore oer llwydrewog yn yr Hydref, dyma eneth ieuanc a golwg dlodaidd iawn arni, ond eto yn brydweddol dros ben, a phlentyn bychan pythefnos neu dair wythnos oed yn ei choff, yn galw yn y tŷ gyda Mrs. Morris, ac yn gofyn a welai hi fod yn dda roddi rhyw damaid iddi i'w fwyta. Synodd Mrs. Morris wrth y dirfawr dlodi mewn cyssylltiad a chymmaint o brydferthwch a lledneisrwydd; a thrwy fod y plentyn, yn gystal a'r fam, heb feddu ond ychydig am dano, cafodd yr eneth amryw gymmwynasau ganddi mewn dillad yn gystal a bwyd. Ar ol cael ei diwallu, aeth y fam a'i phlentyn i ffwrdd gyda chalon ddiolchgar i wynebu eto ar y byd mawr llydan. Ni chafodd Mrs. Morris, er maint ei chwilfrydedd, wybod nemawr na dim o'i hanes; ac aeth yr helynt yma heibio fel llawer helynt arall.

Ym mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn, dyma gerbyd, yn cael ei dynnu gan ddau geffyl, a gwas yn ei yrrn, a gwas arall tu ol, yn aros wrth ddrws y Pandy. Yr oeddynt yno yn ddigon cyfarwydd â gweled cerbydau yn pasio, ond dyma'r cerbyd cyntaf a welwyd yn sefyll wrth y tŷ hwn, a boneddiges landeg iawn, wedi ei gwisgo a'i haddurno â'r pethau gwerthfawrocaf oedd yn bosibl i gyfoeth ei wneyd, yn disgyn o'r cerbyd, ac yn dyfod i mewn i'r hen fwthyn, ac yn gofyn yn serchog i Mrs. Morris, " A odych ch'i yn 'nabod i?" Synai y wraig ei chlywed yn siarad Cymraeg, ac atebodd, "Nac wyf, yn siwr, m'am.” "A odych ch'i ddim yn cofio hogen ifanc, a phlentyn ganddi, yn gofyn cardod gyda ch'i ar fore oer er ys hyn a hyn o flynyddau yn ol?" "Ydwyf yn yn eithaf da, m'am." "Wel, y fi oedd honno; bûm yn eich bendithio fil o weithiau, herwydd ch'i

cofio

66

66

« PreviousContinue »