Page images
PDF
EPUB

8

YSTEN SIONED.

Y FERCH ANFFODUS.

CEFAIS yr hanesyn canlynol mewn papyryn a ysgrifenwyd er ys mwy na chan mlynedd yn ol; a geilw yr ysgrifenydd ef yn "Ystori Wirioneddol." Yr wyf yn ei adrodd yn lled agos yng ngeiriau yr ysgrifen gyntefig.

Yr oedd yn trigiannu yng Ngwern Hywel, yn agos i Yspytty Ifan, wr yn byw ar ei dir ei hun, ag iddo ddau fab; ond nid oedd yr hynaf o honynt, sef yr etifedd, mor ffetus a dynion ereill; eithr gwirion a phlentynaidd ydoedd; ac nid oedd rhianedd mewn un modd yn wrthddrychau deniadol yn ei gyfrif ef. Y tad, wrth weled ei gyufab felly, a feddyliodd wneuthur Ꭹ mab arall yn etifedd yn ei le. Yn yr un gymmydogaeth yr oedd yn byw wr arall â dwy ferch ganddo; ac yr oedd ef yn ddyn o gryn feddiannau a gwerth. Beth a wnaeth y gwr yma ond ceisio gwthio un o'i ferched, o chwant y tir, ar yr etifedd gwirion, a rhoddi cryn dwysgen o eiddo gyda hi yn gynnysgaeth. Ac felly gwnaed cytundeb, a hwy a briodwyd, ac aethant i fyw yng nghyd ar y tyddyn a berthynai i'r gwr egwanbwyll. Dros flwyddyn neu ragor ymddygodd y ferch yn wraig go wastad; ond ar dro daeth rhyw hen gydymaith iddi heibio, a hudodd hi i'w ganlyn ef.

Aeth hithau i ffordd gydag ef dros ryw hyd, ac nis gwyddid pa le yr oeddynt; ond gadawodd yr adyn hi, a hi a fu yn cerdded i lawr ac i fyny o fan i fan, heb neb yn gwybod dim o'i hanes; ond hi a ddeuai weithiau i ryw un o'r caeau nid neppell o'r tŷ, ac a roddai rywbeth yno i annerch ei gwr, a hynny mor fynych ag y gallai hi gael y peth a garai ac a hoffai ef; eithr nid ai i'r tŷ er dim a geisient ganddi, ond i ffordd drachefn fel chwibleian nas gwyddid i ba le. Hi a fu ddwy neu dair blynedd yn y cyflwr crwydrus hwn, megys wedi cywilyddiaw o herwydd ei hymddygiad, a'i thad (yr hwn a wnelsai y briodas) yn ddig iawn wrthi, ac yn barod i'w tharaw yn ei phen ond cael ei gweled. Ond ym mhen hir a hwyr hi a ddaeth i dy ei thad; eithr nid oedd yr hen wr ei thad yn dygwydd bod yn y tŷ y pryd hynny, ond ei chwaer yn pobi wrth y bwrdd. "O! fy chwaer," ebai hi, “i ba beth y doit ti yma ? Cymmer fwyd, a dos i ffordd cyn dyfod fy nhad i'r tŷ, rhag ofn iddo dy daraw a'th friwo, o herwydd ei fod yn ddig iawn;" ond hi a arosodd nes dyfod ei thad i mewn. Aeth yntau heibio tuag at y tân heb ei gweled, ac eisteddodd mewn cadair: ond hi a syrthiodd ar ei gliniau o'i flaen ef, gan ofyn ei fendith. Ebai'r hen wr, " Beth wyt ti, a phwy sydd yma ?" Ebai'r chwaer arall wrtho, "Fy chwaer yw hi." Yntau a gododd ei ddwylaw ac a'u rhoes ar ei phen, gan ddywedyd, “Duw a'th fendithio, ac a ddiwygio dy fuchedd!" Ar hynny hi a ollyngodd ei phen ar ei liniau ef, ac yntau yn ceisio ganddi godi: ond yn ofer. Erbyn edrych yr oedd hi wedi marw! A'r hen wr, pan wybu ei marw, a gododd ei ddwylaw, gan ddiolch i Dduw na roisai ef na chlais na dyrnod iddi, er diced ydoedd.

TWMPATHAU ARTHUR.

PAN oedd Sioned ym Morganwg ar ei thro, rhoddwyd a ganlyn, ym mhlith pethau derbyniol ereill, yn ei Hystên.

Y mae rhes o fynyddau yn rhedeg drwy Ddeheubarth o'r dwyrain i'r gorllewin, ag arnynt dwmpathau neu wyddfaoedd, a elwir Twmpathau Arthur, neu Neidiau Arthur; yr hwn, meddir, a'u cododd, gan osod dewisedigion o'i filwyr mewn lleoedd cyfaddas arnynt i wylied ymgyrch gelynion o fôr ac o dir; a phan welid y cyfryw yn agosäu, neidiai yr un a'u gwelai gyntaf o dwmpath i dwmpath, oni ddelai ef â'r newydd i Gaerlleon ar Wysg, lle yr oedd y milwyr dan arfau yn barod i fyned yn erbyn y gelynion. Y nesaf i Gaerleon o'r Twmpathau hyn sydd ar ben Twyn Barlwm, yng Ngwaenllwg; yr ail, ar Arth Llanilltud Faerdref; y trydydd, ar Arth Maelwg; y pedwerydd, ar Fynydd y Gaer, Llangrallo; y pummed, ar Fynydd Morgeila, yn Nhir Iarll; y chweched, ar Fynydd y Gaer, Glyn Nedd; y seithfed, ar y druman rhwng Nedd a Thawy; yr wythfed yw'r wyddfa ar y mynydd uwch ben Trewyddfa, yn Llangyfelach; a'r nawfed, yr hon yw y naid fwyaf oll, ac yn drigain. milltir o leiaf, ar y Frenni Fawr, yn Nyfed. Nid aml y gwelir Cymro y dydd heddyw a ddichon neidio cyn belled; a phrin y gallasai Sioned gyflawni yr orchest pan oedd yn ei hamser goreu.

TRADDODIAD AM Y BARDD CWSG.

Y MAE (neu o leiaf yr oedd) y bobl gyffredin, yng nghymmydogaethau'r Las Ynys, yn o agcs i Harlech, lle yr oedd Elis Wynn yn byw, yn credu mai damweiniau a ddygwyddasent mewn gwirionedd oedd i Elis Wynn gael ei gymmeryd i fynydd gan y Tylwyth Teg oddi ar ben y mynydd a elwir Moelfre, ac iddynt ei ddwyn ef gyda nhwy drwy yr holl fyd; ac iddo feddwl ei fod ef wedi bod gyda nhwy lawer iawn o flynyddau, neu gylch einioes hir; ond pan ddaeth ef yn ol nid oedd ei foreufwyd hanner parod, er bod ei dylwyth wedi bod yn ddiwyd iawn i'w barotoi iddo erbyn yr amser yr arferai gymmeryd ei bryd bore.

Ac am Weledigaeth Uffern, y maent yn credu ei fod ef mewn gwirionedd wedi cael ei ddwyn i Uffern gan Augel o'r nef; a phan ddaeth ef yn ei ol, yr oedd, meddant, ei ddillad a'i benguwch wedi eu greidio a’u golosgi, a chymmaint o sawr ffiaidd uffern ganddynt, fel na thalent mwyach eu gwisgo; eithr eu llosgi ar lan y môr a wnaed mewn lle y byddai sicr i'r llanw eu cyrhaedd, a chymmeryd ymaith yn lân eu lludw. Yu ei daith drwy uffern, ni fu ef mewn gwirionedd ond meityn bychan o amser, er iddo ef feddwl ei fod wedi bod oesoedd meithion yno.

Yr oedd amryw goelion ereill o'r cyfryw am Elis Wynn ym mhenau hen wragedd eisingrug y wlad o amgylch y Las Ynys.

Sonir yn gyffredin fod Elis Wynn wedi bwriadu. cyhoeddi gweledigaeth arall, dan enw Gweledigaeth y Nef; ac yr oedd ef, meddir, wedi ysgrifenu llawer o'r weledigaeth honno; a pheth, fel y dywedir, o Weled

« PreviousContinue »